Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau ar brosiect traws-sector uchelgeisiol, mewn partneriaeth â Fforwm Modurol Cymru, i amlygu a mapio'r cwmnïau hynny yng Nghymru sy’n gweithredu, neu a allai weithredu, yn y farchnad Symudedd Allyriadau Sero Net newydd.
Efallai bod eich cwmni eisoes yn cyflenwi'r farchnad symudedd sero net, boed hynny’n Foduron, Trenau, Morol, Awyrofod ac ati, neu’n meddu ar y gallu, yr hyblygrwydd, a’r weledigaeth i newid eu proses a chymryd rhan mewn cadwyni cyflenwi Symudedd Sero Net yn y dyfodol.
Un o nodau’r prosiect yw cydnabod lle mae meysydd o ddiddordeb cyffredin ynghylch pileri technoleg allweddol:
- Cadwyn Gyflenwi Batris a Storio Ynni
- E-beiriannau
- Electroneg Pŵer a Systemau Trydanol
- Celloedd Tanwydd
- Systemau Gyriant Thermol Amgen
- Cerbydau Tanwydd Amgen
- Ailgylchu
- Pwysau ysgafn
- Isadeiledd
- Galluogwyr cysylltiedig ac awtomataidd
Ein nod yn y tymor hir yw dod â chwmnïau at ei gilydd yng Nghymru sy'n gallu gweithio gyda'i gilydd, gan adeiladu clystyrau o fusnesau sydd â buddiannau tebyg yn y sector symudedd yn y dyfodol, un y gallwn ei farchnata'n rhyngwladol a helpu i gryfhau'r sector i ddiogelu swyddi.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Mawrth 2023
Os ydych chi'n meddwl y dylai eich busnes fod yn rhan o'r dyfodol cyffrous hwn, cysylltwch â info@netzeromobility.co.uk