BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad Agored am Gyllid Clwstwr 2021

Rhaglen bum mlynedd i greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrofiadau newydd ar gyfer y sectorau sgrin a newyddion yng Nghymru yw Clwstwr.

Mae'r alwad agored hon eisiau cefnogi datblygiadau arloesol sy’n cynnig budd economaidd – yn creu, yn cynnal ac yn datblygu busnesau – ac sy'n gwneud y byd yn lle gwell (yn fwy doeth, iach, cynhwysol a diddorol). 

Mae Clwstwr ar gyfer busnesau, sefydliadau a gweithwyr proffesiynol y diwydiant sgrin, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, yn ogystal â'r economi greadigol ranbarthol ehangach. Bydd yn creu llwyfan i sicrhau bod cwmnïau annibynnol, busnesau bach a chanolig, microfusnesau a gweithwyr llawrydd yn gallu cystadlu â chwmnïau cyfryngau byd-eang, hynod integredig.

Oherwydd cyfyngiadau symud parhaus, bydd Clwstwr yn darparu cyfleoedd ar-lein i ddarpar ymgeiswyr gyfarfod ag aelodau'r tîm i drafod eich syniad un-i-un. Gallwch drefnu sesiwn Zoom neu sgwrs ffôn.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 21 Mai 2021.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Clwstwr.
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.