Gwahoddir busnesau a thirfeddianwyr i gymryd rhan mewn cyfle newydd arwyddocaol.
Gan weithio gydag Uchelgais Gogledd Cymru, mae Cynghorau Sir y Fflint a Wrecsam wedi cyhoeddi galwad agored am brosiectau a safleoedd i lywio datblygiad Parth Buddsoddi Gweithgynhyrchu Uwch ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru. Bydd dealltwriaeth o safleoedd addas a phrosiectau buddsoddi yn helpu i nodi cwmpas ac uchelgais yr hyn y gall y Parth Buddsoddi ei gyflawni
Mae’r cyfle i gymryd rhan yn gyfle anhygoel, felly anogir busnesau a thirfeddianwyr i gyflwyno eu syniadau erbyn y dyddiad cau, sef 26 Gorffennaf 2024.
Anogir busnesau a thirfeddianwyr sydd â diddordeb i gwblhau ffurflen sy'n amlinellu sgôp eu cynnig, yr effaith economaidd bosibl, a pharodrwydd y prosiect ar gyfer datblygiad. Mae gan y cynghorau ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sydd:
- Yn cynnig technolegau phrosesau gweithgynhyrchu arloesol.
- Gyda'r potensial i greu swyddi sgiliau uchel.
- Yn cyd-fynd ag egwyddorion cynaliadwyedd a gweithgynhyrchu gwyrdd.
- Yn gallu dangos llwybr clir at weithredu.
Am ragor o wybodaeth neu ymholiadau, gall busnesau gysylltu â chydlynydd y prosiect Iain Taylor Iain@imtconsulting.co.uk
Cliciwch ar y ddolen y ddolen ganlynol i ddarllen mwy am y cyfle hwn: Uchelgais Gogledd Cymru | Galwad Agored ar gyfer Prosiectau Gweithgynhyrchu Uwch a Safleoedd ar gyfer Parth Buddsoddi yn Sir y Fflint a Wrecsam