BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad Agored DASA am Arloesi

Mae’r Sbardunwr Amddiffyn a Diogelwch (DASA) yn cyllido arloesi drwy ddau brif fecanwaith, yr Alwad Agored am Arloesi a Chystadlaethau â Thema. 

Galwad Agored am Arloesi

Mae’r Alwad Agored yn bodoli i gynnig y cyfle i gyflenwyr gyflwyno eu syniadau i randdeiliaid amddiffyn a diogelwch.

Mae’r Alwad Agored yn croesawu arloesi sy’n mynd i’r afael ag unrhyw her ym maes amddiffyn, neu arloesedd sy’n mynd i’r afael â heriau diogelwch lle mae Maes Ffocws Arloesi diogelwch perthnasol.
Mae’r Alwad Agored yn croesawu cynigion gydol y flwyddyn, gyda dyddiadau asesu wedi’u trefnu gydol y flwyddyn. Mae rhagor o wybodaeth am ddyddiadau asesu ar gael yma.

Cystadlaethau â Thema

Nod y Cystadlaethau â Thema yw cynnig y cyfle i gyflenwyr gyflwyno cynigion ar gyfer meysydd sydd o ddiddordeb penodol i’r llywodraeth. Gall cystadlaethau â thema fod yn rhai am gyfnod byr ac efallai y bydd yna ddyddiadau cau penodol.
Mae DASA wedi cynnal cystadlaethau â thema amrywiol sydd wedi cwmpasu pob math o bynciau. Am fanylion cystadlaethau yn y gorffennol, cliciwch yma.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gov.UK
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.