Mae’r Swyddfa Symleiddio Treth (OTS) wedi cyhoeddi arolwg ar-lein a galwad am dystiolaeth i geisio barn ar y Dreth ar Enillion.
Mae’r OTS am glywed gan unigolion a busnesau ynghyd â chynghorwyr proffesiynol a chyrff cynrychiadol ynghylch pa agweddau ar y dreth ar enillion cyfalaf sy’n arbennig o gymhleth ac yn anodd ei chael yn iawn, a chlywed unrhyw awgrymiadau ar gyfer gwelliannau.
Daw’r alwad am dystiolaeth mewn dwy ran:
- mae’r gyntaf yn ceisio sylwadau lefel uchel ar egwyddorion y Dreth ar Enillion Cyfalaf erbyn 10 Awst 2020
- gyda’r ail a phrif adran y ddogfen yn gwahodd sylwadau manylach ar fanylion technegol a gweithrediad ymarferol y Dreth ar Enillion Cyfalaf erbyn 12 Hydref 2020.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.