Mae system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn wynebu heriau digynsail yn sgîl pandemig Covid-19, argyfwng costau byw a'r argyfwng byd-eang yn yr hinsawdd. I ymateb i hyn ac fel un o'i flaenoriaethau, mae Comisiwn Bevan yn canolbwyntio ei feddwl a’i ymdrechion i fynd i’r afael â gwastraff ym maes iechyd a gofal.
Bydd y rhaglen Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd yn datblygu'r ymchwil a gynhaliwyd gan y Comisiwn ymhellach, gan gyfuno ymrwymiad a chydweithrediad i leihau gwastraff ar draws y system.
Cynhelir gweminar ar 19 Ebrill 2023 rhwng 2pm a 4:30pm, i rannu rhagor am yr ymchwil hon a'r rhaglen Lleihau Gwastraff Gyda’n Gilydd a'r rhwydwaith cydweithredol arfaethedig i weithredu fel y gallwn ni i gyd fynd i'r afael â'r her hon.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Let's Not Waste Call to Action and Launch Event Tickets, Wed 19 Apr 2023 at 14:00 | Eventbrite