BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofalwch fod gennych chi’r cyfleusterau iawn yn y gweithle

Mae’n rhaid i chi ddarparu’r cyfleusterau iawn i bawb yn eich gweithle, gan gynnwys pobl ag anableddau.

Mae’n rhaid i chi fod â’r canlynol:

  • cyfleusterau lles – y nifer cywir o doiledau a basnau ymolchi, dŵr yfed a  rhywle i orffwys a bwyta pryd
  • amgylchedd gwaith iach – gweithle glân gyda thymheredd gwaith rhesymol, awyru da, goleuadau addas a digon o le a seddi
  • gweithle diogel – cyfarpar yn cael ei gadw mewn cyflwr da, dim rhwystrau ar loriau a llwybrau traffig, a bod modd agor a glanhau’r ffenestri yn hawdd

Cymerwch olwg ar gyngor syml yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar yr hyn sy’n rhaid ei ddarparu ar gyfer gweithle diogel ac iach, gan gynnwys cyfleusterau toiled ac ymolchi gofynnol

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

 

 



 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.