BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

gofod3 – gofod Cymru ar gyfer y Sector Gwirfoddol

Mae gofod3 yn ddigwyddiad a drefnir gan WCVA, mewn cydweithrediad â'r sector gwirfoddol yng Nghymru a dyma'r digwyddiad mwyaf o'i fath gan y sector gwirfoddol yng Nghymru. 

P'un a ydych yn ymddiriedolwr, yn aelod o staff, yn wirfoddolwr neu bob un o’r tri, dyma ofod unigryw i chi fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Cynhelir y digwyddiad eleni o 20 i 24 Mehefin. 

Gyda dros 60 o ddigwyddiadau AM DDIM ar gael, gan gynnwys amserlen gyffrous a phrysur o siaradwyr, dosbarthiadau meistr, dadleuon panel a gweithdai, mae rhywbeth at ddant pawb. 

I gael mwy o wybodaeth ewch i https://gofod3.cymru/ 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.