BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofynion newydd ar gyfer mewnforio nwyddau anifeiliaid a phlanhigion o 1 Ionawr 2022

O 1 Ionawr 2022, bydd angen hysbysu ymlaen llaw am fewnforion i Brydain Fawr o’r UE ar gyfer y rhan fwyaf o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw’n dod o anifeiliaid a phlanhigion a chynhyrchion planhigion a reoleiddir.

Efallai y bydd gofyn i fusnesau (neu gynrychiolydd yn gweithredu ar eu rhan) sy’n mewnforio’r nwyddau hyn o’r UE hysbysu awdurdodau ymlaen llaw y bydd eu llwyth yn dod i mewn i Brydain Fawr, gan ddefnyddio’r system TG berthnasol.

Gallwch weld y canllawiau diweddaraf ar fewnforio bwyd, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion planhigion i Brydain Fawr o’r UE yn GOV.UK.

Cofrestrwch ar gyfer y system TG berthnasol ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion nawr i wneud yn siŵr bod eich busnes yn barod.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.