BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gofynion newydd i fusnesau: mewnforio nwyddau anifeiliaid a phlanhigion o 1 Ionawr 2022

Bydd gofynion newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer mewnforio rhai nwyddau SPS, fel cig neu blanhigion, i Brydain Fawr o'r UE o 1 Ionawr 2022.

Bydd angen rhag-hysbysiad wrth fewnforio'r rhan fwyaf o gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw'n dod o anifeiliaid a phlanhigion a chynhyrchion planhigion a reoleiddir o'r UE i Brydain Fawr. Efallai y bydd yn ofynnol i fusnesau (neu gynrychiolydd sy'n gweithredu ar eu rhan) sy'n mewnforio'r nwyddau hyn o'r UE hysbysu awdurdodau ar y system TG berthnasol y bydd eu llwyth yn dod i Brydain Fawr.

Mae'r holl reolaethau presennol, gan gynnwys rhaghysbysu, ar gyfer cynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid o dan fesurau diogelu, anifeiliaid byw a phlanhigion a chynhyrchion planhigion â blaenoriaeth uchel yn parhau'r un fath.

Bydd datganiadau tollau llawn hefyd yn cael eu cyflwyno ar 1 Ionawr 2022.

Ewch i GOV.UK i ddysgu mwy am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â rheolau newydd datganiadau'r tollau.

Gweler y canllawiau diweddaraf ar gyfer mewnforio bwyd, sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion planhigion i Brydain Fawr o'r UE ar GOV.UK.

Cofrestrwch ar gyfer y system TG berthnasol ar gyfer cynhyrchion anifeiliaid a phlanhigion nawr i sicrhau bod eich busnes yn barod ar gyfer gofynion rhag-hysbysu o 1 Ionawr 2022. 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.