BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gogledd Cymru Actif Cronfa Arloesi

girls playing sport

Gwahoddir sefydliadau i wneud cais am gymorth gan Gronfa Arloesi Actif Gogledd Cymru o hyd at £50,000 ar gyfer prosiectau yng Ngogledd Cymru i gynyddu’r nifer o ferched ifanc a genethod sy’n actif bob dydd.

Mae merched ifanc a genethod yn wynebu llawer o heriau o ran bod yn actif ac mae deall y rhwystrau hyn yn hanfodol bwysig i ddechrau cynyddu lefelau cyfranogiad.

Mae Actif Gogledd Cymru yn chwilio am geisiadau fydd yn:

  • Gwella dealltwriaeth o’r rhwystrau y mae merched ifanc a genethod yn eu hwynebu i fod yn actif
  • Profi dulliau newydd
  • Ymgysylltu â phartneriaid newydd
  • Rhannu mewnwelediad a dysgu er mwyn siapio’r darpariaeth y dyfodol
  • Grymuso merched drwy weithgaredd corfforol/chwaraeon

Mae ceisiadau'n cau am 5pm ar 23 Hydref 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Actif North Wales (gogleddcymruactif.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.