BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gogledd Cymru yn arwain y ffordd i Sero Net gyda Chynlluniau Ynni Ardal Leol

North Wales coastal path - Great Orme Llandudno

Gydag ymrwymiad y DU i gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050, mae Cymru yn arwain y ffordd drwy Gynlluniau Ynni Ardal Leol (LAEPs) arloesol.

Nid glasbrintiau ar gyfer datgarboneiddio yn unig yw'r cynlluniau hyn - maent yn fapiau ffyrdd cydweithredol sy'n cynnwys awdurdodau lleol, cwmnïau ynni, a rhanddeiliaid cymunedol i sicrhau dyfodol cynaliadwy, carbon isel. Nod y cydweithrediad traws-sector hwn yw helpu i sicrhau bod cynlluniau ar draws y rhanbarth yn cyd-fynd â'i gilydd ac, o ganlyniad, yn gwella'r ddarpariaeth o gyfleoedd sero-net. 

Mae Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn strategaethau wedi'u teilwra, sydd wedi'u cynllunio i arwain pob un o awdurdodau lleol Cymru tuag at ddatgarboneiddio. Maent yn cynnig fframwaith ar gyfer sut y gall siroedd drosglwyddo i economi sero-net yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol, gan ystyried nodweddion unigryw pob ardal ar yr un pryd. Er bod rhai ardaloedd yn gyfoethog o ran gweithgarwch diwydiannol, mae eraill yn wledig yn bennaf, sy'n golygu bod anghenion ynni a’r atebion posibl yn amrywio'n fawr. 

Yng Ngogledd Cymru, Uchelgais Gogledd Cymru yw'r corff sy'n gyfrifol am hwyluso Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn y rhanbarth. Datblygwyd chwe Chynllun Ynni Ardal Leol, un ar gyfer pob awdurdod lleol. 

Cymru fydd y wlad gyntaf yn y byd i gael Cynllun Ynni Ardal Leol ym mhob un o'i siroedd, a’r rheini felly'n ffurfio Cynllun Ynni Ardal Leol cenedlaethol cadarn. Mae'r cynlluniau'n darparu gweledigaeth glir ar gyfer cyflawni sero-net trwy dargedu sectorau penodol fel cynhyrchu ynni, cludiant, ac effeithlonrwydd adeiladau, a hynny oll gan ystyried y cryfderau rhanbarthol mewn ynni adnewyddadwy fel ynni gwynt a morol. 

Mae'r daith ddatgarboneiddio ar gyfer pob awdurdod lleol yn wahanol. Mewn rhanbarthau diwydiannol fel Sir y Fflint, efallai y bydd y pwyslais ar leihau allyriadau o weithgynhyrchu a gwella effeithlonrwydd ynni safleoedd diwydiannol. Ar y llaw arall, gallai ardaloedd gwledig fel Gwynedd a Môn ganolbwyntio mwy ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy trwy ffermydd gwynt ac ynni morol, gan harneisio adnoddau naturiol y rhanbarth. 

I gael rhagor o wybodaeth am uchelgais Sero Net y Llywodraeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Cymru Sero Net | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.