BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gohirio talu TAW – gwnewch gais ar-lein cyn 21 Mehefin 2021

Mae’r cynllun taliadau newydd ar gyfer y cynllun gohirio talu TAW bellach ar agor i fusnesau a ohiriodd talu TAW rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 ac a oedd yn methu talu’n llawn erbyn 31 Mawrth 2021.

Os ydych chi’n gwneud cais i wasgaru’ch taliadau rhwng 20 Mai a 21 Mehefin, gallwch dalu mewn wyth rhandaliad.

21 Mehefin yw’r dyddiad cau i chi allu ymuno â’r cynllun hwn. Gallwch wneud cais yn gyflym ac yn syml ar-lein, am ragor o wybodaeth ewch GOV.UK

Am ragor o wybodaeth os nad ydych chi’n gallu talu o hyd ac angen rhagor o amser, ewch i GOV.UK.

Efallai y codir cosb o 5% arnoch chi a/neu log os nad ydych chi’n cofrestru ar gyfer y cynllun gohirio talu erbyn y dyddiad cau sef 21 Mehefin, neu’n talu’n llawn erbyn 30 Mehefin, neu cysylltwch â CThEM i wneud trefniant amgen i dalu erbyn 30 Mehefin 2021.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.