BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar Orchymyn drafft. Mae'r Gorchymyn yn newid y ffordd y caiff llety hunanddarpar ei drin at ddibenion trethiant lleol.

At ddibenion trethiant lleol, mae eiddo’n cael ei gategoreiddio naill ai’n eiddo domestig neu'n eiddo annomestig. Y dreth gyngor sy’n cael ei thalu ar eiddo domestig. Ardrethi annomestig sy’n cael eu talu ar eiddo annomestig. Gelwir y rhain yn ardrethi busnes hefyd.

Er mwyn bod yn atebol i dalu ardrethi annomestig rhaid i lety hunanarlwyo fod yn cael ei osod, a rhaid iddo fod ar gael i’w osod am gyfnod penodol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar orchymyn drafft a fydd yn:

  • Codi nifer y diwrnodau y mae'n rhaid gosod yr eiddo o 70 i 182 diwrnod
  • Codi nifer y diwrnodau y mae'n rhaid i'r eiddo fod ar gael o 140 i 252 diwrnod

Mae ymgynghoriad yn cau ar 12 Ebrill 2022.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gorchymyn drafft Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.