BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau ar gynhyrchion plastig untro penodol

Y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei bwriad i wahardd neu gyfyngu ar y cynhyrchion plastig untro hynny sydd cael eu sbwriela mor rheolaidd oedd yn ystod yr ymgynghoriad ar ei chynigion ym mis Hydref 2020. Roedd y gwaharddiadau hyn yn cael eu datblygu mewn ymateb i'r pryderon cynyddol ynghylch effaith niweidiol llygredd plastig ar ein bywyd gwyllt a'n hamgylchedd. Daeth dros 3,500 o ymatebion i law. Roedd y rhan fwyaf ohonynt o blaid cyflwyno'r ddeddfwriaeth newydd, gyda llawer yn annog Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach. Mae'r ymgynghoriad ag ymateb Llywodraeth Cymru ar gael yma.

O ganlyniad, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) (‘y Bill’) yn y Senedd ar 20 Medi 2022. Roedd y Bil yn destun proses graffu Senedd Cymru; mae rhagor o fanylion sesiynau tystiolaeth a thrafodaethau'r Pwyllgor ar wefan Senedd Cymru

Ar 6 Rhagfyr 2022 pleidleisiodd mwyafrif llethol o'r Senedd dros y Bil, ac mae bellach yn aros am Gydsyniad Brenhinol cyn y gall ddod yn Ddeddf. Rydym yn disgwyl i hyn ddigwydd ym mis Mehefin 2023. Gallwch weld y Bil yma.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer dechrau'r gwaharddiadau yn yr hydref.

Mae Llywodraeth Cymru yn eisiau eich barn ar ein cynigion am ddefnyddio sancsiynau sifil i orfodi’r gwaharddiadau a ddaw ar gynhyrchion plastig untro penodol.

Ymgynghoriad yn cau: 9 Mehefin 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Cynigion am orfodi’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.