Yn 2021, gohiriwyd gorfodi rheoliadau’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi y bydd cyflogwyr eleni’n wynebu camau gorfodi os nad ydynt yn adrodd ar eu data. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw sefydliad sy’n cyflogi dros 250 o aelodau staff gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Fodd bynnag, yn sgil yr heriau sy’n wynebu llawer o gyflogwyr ar hyn o bryd, ni fyddwn yn dechrau gorfodi hyd 5 Hydref 2021, a bydd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn cysylltu â chyflogwyr nad ydynt wedi cyflwyno eu data neu os yw eu data yn ymddangos yn anghywir.
Mae hyn yn rhoi cyfnod gras, gan fod y rheoliadau yn nodi bod yn rhaid i’r cyrff sector cyhoeddus adrodd ar eu data erbyn 30 Mawrth tra bod yn rhaid i gyflogwyr sector preifat adrodd erbyn 4 Ebrill. Anogir cyflogwyr i gyflwyno eu data ar gyfer 2020/2021 cyn mis Hydref pan fo hynny’n bosibl.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, dylid cyflwyno’r data bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar-lein drwy wefan adrodd Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau Llywodraeth y DU a dylid ei gyhoeddi ar wefan y cyflogwr.
Oherwydd y bydd gan lawer o gyflogwyr staff ar ffyrlo, mae canllawiau cynhwysfawr wedi’u llunio ar sut i gynnwys staff ar ffyrlo mewn adroddiadau Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau. Mae’r canllawiau hyn yn cyd-fynd â’r canllawiau sydd eisoes yn cael eu darparu i gyflogwyr ar adrodd ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.