BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gostyngiad ardrethi busnes llawn yn parhau yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben ar 1 Gorffennaf.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y gostyngiad llawn o 100 y cant i bob busnes ac elusen yn y sectorau hamdden a lletygarwch tan fis Ebrill 2022. 

Bydd manwerthwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000 hefyd yn parhau i dderbyn gostyngiadau llawn ar eu cyfraddau am weddill y flwyddyn.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.