BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant ceir trydan i ddod i ben wrth i'r ffocws symud at wella gwefru cerbydau trydan

Mae llywodraeth y DU yn cau'r cynllun grant ceir trydan i archebion newydd, o 14 Mehefin 2022, ar ôl rhoi hwb llwyddiannus i chwyldro ceir trydan y DU a chefnogi gwerthu bron hanner miliwn o geir trydan. 

Er mwyn parhau ag ymgyrch llywodraeth y DU tuag at sero net a sicrhau defnydd effeithiol o arian trethdalwyr, bydd £300 miliwn o gyllid grant yn cael ei ailganolbwyntio nawr ar ymestyn grantiau ceir trydan i hybu gwerthu tacsis, beiciau modur, faniau a thryciau a cherbydau sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn trydan, fel y cyhoeddwyd yn natganiad yr hydref.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Plug-in grant for cars to end as focus moves to improving electric vehicle charging - GOV.UK (www.gov.uk)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.