Mae Llywodraeth Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer y Grant Coetiroedd Bach. Mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru.
Bydd y grant hwn yn creu 100 o 'Goetiroedd Bach' hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025. Mae'n rhaid i'r coedlannau hyn fod â'r potensial i fod yn rhan o rwydwaith Coedwig Genedlaethol i Gymru yn y dyfodol.
Mae hyn yn golygu coetiroedd:
- sy'n cael eu rheoli'n dda
- sy'n hygyrch i bobl
- sy'n rhoi cyfle i gymunedau lleol gymryd rhan mewn coetiroedd a natur
Bydd sawl rownd o Coetiroedd Bach yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf; gweler y dyddiadau isod:
- Rownd 1 – dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 10 Mai 2023
- Rownd 2 – dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 15 Hydref 2023
- Rownd 3 – dyddiad cau ar gyfer ymgeisio: 8 Mai 2024
Ceir mwy o fanylion ar: Coedwig Genedlaethol i Gymru | LLYW.CYMRU
Ceir mwy o wybodaeth am ddull Coetiroedd Bach ar Tiny Forest (earthwatch.org.uk)