BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant dechrau busnes carbon sero net

Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n cynnig cymorth ariannol a thechnegol i:

  • Helpu egin fentrau cymdeithasol (neu fentrau sy’n dechrau) i gael eu busnes yn barod ar gyfer masnachu neu fuddsoddi
  • Ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd mewn mentrau cymdeithasol newydd o’r diwrnod cyntaf 

Mae’r cynllun yn agored i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais.

Mae’r cynllun peilot hwn i egin fentrau cymdeithasol sydd newydd ddechrau, sydd:

  • Yng Nghymru, yn cyflwyno buddion i gymunedau Cymreig
  • Yn gorfforedig, gyda chynllun busnes cadarn ond heb ffrydiau refeniw profedig eto (Gall mudiadau anghorfforedig ymgeisio, ond bydd angen iddynt ddod yn gorfforedig cyn y bydd unrhyw gyllid yn cael ei ryddhau)
  • Gydag uchelgais i dyfu er mwyn creu gwaith a chael effaith gymdeithasol
  • Yn ymrwymedig i ennill statws carbon sero net ar gyfer y busnes. (Diffinnir sero net fel gweithio i sicrhau bod y busnes yn cynhyrchu cyn lleied â phosibl o allyriadau carbon a gwrthbwyso’r hyn sy’n weddill – mae’n cydnabod mai ychydig iawn o fusnesau fydd yn rhai hollol ‘garbon sero’)

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn grant o hyd at £12,500 i’w helpu i lansio eu masnachu’n swyddogol neu baratoi eu busnesau ar gyfer buddsoddiad. Bydd y grant yn cael ei wario ar gael y busnes at un o’r pwyntiau hyn ac nid oes yn rhaid iddo gael ei wario ar weithgarwch lleihau carbon.

Bydd mudiadau yn y cynllun peilot hwn hefyd yn cael cymorth gan ymgynghorydd newid hinsawdd er mwyn ymwreiddio arferion gweithredu sy’n ystyriol o’r hinsawdd o fewn eu busnesau o’r cychwyn cyntaf. 

Y dyddiad cau ar gyfer Mynegi Diddordeb yn y rownd gyntaf yw 3 Mawrth 2022 am 11.59pm. Unwaith y bydd y cyfnod Mynegi Diddordeb wedi dod i ben, byddwch chi’n cael gwahoddiad i gyflwyno cais. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yn y cylch cyntaf yw 10 Mawrth 2022 am 11.59pm, a bydd y dyfarniadau’n cael eu cadarnhau erbyn diwedd y mis.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan WCVA.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.