BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Dichonoldeb Draenio Cynaliadwy

Er mwyn helpu i ddatblygu cynlluniau draenio trefol cynaliadwy neu gynlluniau draenio cynaliadwy bach, lleol yng Nghymru ar safleoedd presennol, mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gronfa o £450,000 ar gyfer grantiau datblygu dichonoldeb rhwng £25,000 a £40,000.  

Bydd y grant dichonoldeb draenio cynaliadwy yn galluogi unigolion, grwpiau cymunedol ac eraill i ymgymryd ag astudiaethau dichonoldeb gyda'r potensial i ddatblygu cynlluniau ar raddfa fach trwy gyfnod grant cystadleuol yn y dyfodol.

Pwy all ymgeisio

  • Unigolion
  • Sefydliadau'r sector cyhoeddus
  • Elusennau cofrestredig
  • Prifysgolion, sefydliadau addysg uwch eraill a sefydliadau ymchwil
  • Sefydliadau'r trydydd sector
  • Sefydliadau'r sector preifat

Dyddiad cau i wneud cais: 23:59 ar 25 Medi 2023.

Am wybodaeth bellach, dilynwch y ddolen ganlynol Cyfoeth Naturiol Cymru / Grant dichonoldeb draenio cynaliadwy (naturalresourceswales.gov.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.