BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Hanfodion Ysgol yn agor i gefnogi teuluoedd yn y flwyddyn ysgol nesaf

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi bod y Grant Hanfodion Ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol nesaf bellach ar agor.

Gall plant y mae eu teuluoedd ar incwm is ac sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol wneud cais am grant o £125 y dysgwr a £200 i ddysgwyr sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 (i helpu gyda chostau cynyddol sy'n gysylltiedig â dechrau yn yr ysgol uwchradd).

Mae teuluoedd sydd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 yn gymwys i wneud cais.

Mae’r grant, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel y Grant PDG, Mynediad, yn darparu cyllid ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â mynd i'r ysgol, fel prynu gwisg ysgol, dillad chwaraeon ac ffer.

I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol Grant Hanfodion Ysgol | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.