Mae cystadleuaeth grant newydd gan Lywodraeth y DU yn cael ei lansio i hybu twf busnesau technoleg arloesol newydd a’r rhai sy’n tyfu ym mhob cwr o'r wlad.
Bydd y Grant Twf Digidol gwerth £12.09 miliwn yn canolbwyntio ar agor mynediad at hyfforddiant a chyngor ar sgiliau, a darparu gwasanaethau cymorth i'r sector digidol a thechnoleg dros ddwy flynedd.
Mae gwella rhwydweithiau cymorth rhanbarthol ar gyfer busnesau newydd a busnesau sy’n tyfu yn ffocws allweddol i'r cyllid.
Gall sefydliadau sydd â diddordeb fynychu un o'r gweminarau sydd ar ddod am y grant hwn drwy gofrestru nawr.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Digital Growth Grant - GOV.UK (www.gov.uk)