Mae Grant Twf Sefydliadol Comic Relief yn cael ei reoli gan CGGC a'i ariannu gan Comic Relief. Mae'r cynllun yn cynnig cyllid i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru i'w helpu i gael yr effaith fwyaf bosibl drwy ddatblygiad sefydliadol a mwy o wytnwch.
Nod y Grant Twf Sefydliadol yw rhoi cyfle i sefydliadau wneud newidiadau strategol sy’n gwella eu heffaith ac yn cynyddu gwydnwch, er enghraifft:
- Adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich sefydliad
- Cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
- Datblygu ffyrdd newydd o weithio
Bydd y cynllun yn ariannu sefydliadau sy'n gweithio i ddarparu buddion o dan y themâu canlynol:
- Plant a phobl ifanc – dysgu a datblygu; datblygiad plentyndod cynnar
- Cymuned – canolbwyntio ar wasanaethau lleol gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a mannau diogel i bobl sy’n agored i niwed
- Allgymorth a chymorth sy'n canolbwyntio ar deuluoedd – hanfodion ac anghenion sylfaenol / cymorth ariannol
- Digartrefedd
- Gwasanaethau iechyd meddwl
Bydd grantiau rhwng £20,000 a £35,000 ar gael i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Cyfanswm gwerth y cynllun yw £315,000.
Mae'r cynllun grant bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a bydd yn cau ar 6 Rhagfyr 2024 am 23:59.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Grant Twf Sefydliadol Comic Relief - CGGC