BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Busnesau Bach

Mae Salesforce yn gweithio mewn partneriaeth ag Enterprise Nation i gynnig cyfle i fusnesau bach cymwys dderbyn grant o £5,000 i’w helpu drwy’r argyfwng COVID-19.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i gwmnïau:

  • fod wedi cofrestru yn nhŷ’r Cwmnïau
  • fod wedi’u sefydlu ers o leiaf 12 mis
  • fod heb dderbyn unrhyw grant arian arall yn ystod 2020 mewn perthynas â COVID-19 gan unrhyw Lywodraeth
  • fod wedi’u lleoli yn y DU gyda chyfrif banc Prydeinig
  • fod â rhwng 2 a 50 o weithwyr
  • fod yn bodloni’r holl ofynion cymhwysedd eraill fel y nodir yn nhelerau’r rhaglen grant yma

Bydd ceisiadau’n agor mewn chwe chyfnod rhanbarthol ledled y DU. Mae’r cyfnodau’n seiliedig ar leoliad ac ni fyddant yn effeithio ar ba mor debygol ydych chi i dderbyn grant. Bydd gan bob rhanbarth 7 diwrnod i wneud cais.

Gellir cyflwyno ceisiadau yng Nghymru am 8am ar 13 Gorffennaf 2020 hyd 11:59pm ar 19 Gorffennaf 2020.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Enterprise Nation.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.