BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Clyfar Innovate UK

Mae Innovate UK, sy'n rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn mewn syniadau arloesol a masnachol hyfyw neu rai sy’n torri tir newydd a tharfu. Rhaid i bob cynnig ganolbwyntio ar fusnes.

Rydym yn croesawu ceisiadau o unrhyw faes technoleg y gellir eu cymhwyso i unrhyw ran o'r economi, megis y canlynol (onid nid yw hon yn rhestr gaeth):

  • y celfyddydau, dylunio a'r cyfryngau
  • y diwydiannau creadigol
  • gwyddoniaeth neu beirianneg

I arwain prosiect, rhaid i'ch sefydliad fodloni'r gofynion canlynol:

  • busnes cofrestredig yn y DU o unrhyw faint neu'n sefydliad ymchwil a thechnoleg (RTO)
  • naill ai'n fusnes micro, bach neu ganolig (BBaCh) neu'n cydweithio ag o leiaf un busnes o'r fath
  • yn cyflawni eich gweithgarwch prosiect ymchwil a datblygu (R&D) yn y DU
  • yn bwriadu manteisio'n fasnachol ar ganlyniadau'r prosiect o'r DU

Rhaid anfon eich ceisiadau erbyn 26 Mai 2021 am 11yb.

Rhagor o wybodaeth ar wefan GOV.UK.
 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.