Cyfle i sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o £25 miliwn gan Innovate UK i gyflwyno mesurau Ymchwil a Datblygu arloesol sy’n torri tir newydd ac a allai effeithio’n sylweddol ar economi’r DU.
Rhaid i bob cynnig fod â ffocws ar fusnes.
Gall ceisiadau ddod o unrhyw faes technoleg ac yn addas i’w defnyddio yn unrhyw ran o’r economi, er enghraifft, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- y celfyddydau, dylunio a’r cyfryngau
- diwydiannau creadigol
- gwyddoniaeth neu beirianneg
Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 25 Tachwedd 2020.
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.