BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau gwerth hyd at £10,000 ar gael i gefnogi Tenantiaid a Landlordiaid

Gall sefydliadau elusennol gan gynnwys cymdeithasau tai a chwmnïau buddiannau cymunedol yn wneud cais am gyllid gwerth hyd at £10,000 ar gyfer prosiectau a fydd yn helpu i addysgu landlordiaid dibrofiad am rwymedigaethau landlordiaid preifat, a phrosiectau a fydd yn helpu i addysgu tenantiaid am eu hawliau a’u cyfrifoldebau.

Mae’r cyllid ar gael trwy’r Sefydliad Elusennol y Tenancy Deposit Scheme (TDS), a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 27 Awst 2021 am 5pm. Mae’r Sefydliad yn arbennig o awyddus i dderbyn ceisiadau sy’n canolbwyntio ar ddatblygu addysg a dysgu yn ogystal â datrys anghydfodau, yn sgil effaith Covid-19 ar y Sector Rhentu Preifat.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan TDS.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.