Gall elusennau bach a lleol, sy'n gweithio gyda phobl sy'n wynebu problemau a rhwystrau cymhleth, wneud cais am arian grant gan Sefydliad Banc Lloyds ar gyfer Cymru a Lloegr.
Gall elusennau arbenigol gydag incwm blynyddol rhwng £25,000 a £500,000 wneud cais am grant tair blynedd, heb gyfyngiad gwerth hyd at £75,000.
Bydd y Sefydliad yn cefnogi elusennau sy'n deall cymhlethdod y materion y mae pobl yn eu hwynebu ac sydd yn y sefyllfa orau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Y themâu agored yw:
- Dibyniaeth
- Ceiswyr lloches a ffoaduriaid
- Y rheiny sy'n gadael gofal
- Cam-drin domestig
- Digartrefedd
- Troseddu
- Cam-drin rhywiol ac ecsploetio
- Masnachu a chaethwasiaeth fodern
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm, 3 Mawrth 2023.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Apply for funding (lloydsbankfoundation.org.uk)