Mae The Weavers Company yn dymuno gweithio gyda sefydliadau sy’n gallu dangos gwaith effeithiol gyda chyn-droseddwyr, troseddwyr ifanc, neu bobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu, naill ai o fewn ardal leol neu’n genedlaethol.
Prif nodau’r grant yw cefnogi pobl mewn trafferthion, yn enwedig troseddwyr ifanc a chyn-droseddwyr, yn ogystal â phobl ifanc ddifreintiedig eraill.
Blaenoriaethau:
- Cynorthwyo troseddwyr i gael gwaith
- Helpu grwpiau penodol o fewn y sector cyfiawnder troseddol
- Cefnogi pobl ifanc
Bydd y cwmni’n ariannu elusennau cofrestredig yn y DU a Sefydliadau Corfforedig Elusennol. Mewn amgylchiadau eithriadol, gellir cefnogi Cwmnïau Buddiant Cymunedol.
Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau yn 2024:
- Dydd Iau 14 Mawrth
- Dydd Iau 4 Gorffennaf
- Dydd Iau 14 Tachwedd
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Charitable Grants – The Weavers' Company