A yw eich sefydliad am gysylltu pobl a chymunedau â threftadaeth yn y DU?
A fydd eich prosiect treftadaeth yn para hyd at flwyddyn?
A oes angen grant o rhwng £3,000 a £10,000 arnoch?
A ydych yn sefydliadau dielw neu'n berchennog preifat ar dreftadaeth?
Os ydych yn cytuno gyda'r holl gwestiynau uchod, yna gallwch ymgeisio am Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Gan ddefnyddio arian a godir gan y Loteri Genedlaethol, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn ysbrydoli, yn arwain ac yn cefnogi treftadaeth y DU i greu newid cadarnhaol a pharhaol i bobl a chymunedau, nawr, yn y dyfodol a hefyd:
- sy’n hybu’r economi leol
- yn annog datblygiad sgiliau a chreu swyddi
- yn cefnogi lles
- yn creu gwell lleoedd i fyw, gweithio ac ymweld â nhw
- yn gwella cadernid sefydliad sy’n gweithio ym maes treftadaeth
Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yw rhaglen agored ar gyfer pob math o brosiectau treftadaeth ledled y DU.
Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol – £3,000 i £10,000 | Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol (heritagefund.org.uk)