BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

GREENFLEET CYMRU

Greenfleet

Nid yw trydaneiddio a diogelu unrhyw fflyd ar gyfer y dyfodol yn syml. Mae gweithredu strategaeth i sicrhau bod y cerbydau, y dechnoleg a'r polisïau cywir yn cael eu rhoi ar waith yn holl bwysig, a gan fod pob busnes ledled Cymru ar wahanol gamau, mae digon o waith i'w wneud o hyd. 

Ar ôl gweld effaith digwyddiadau GREENFLEET Scotland ers 2009, ynghyd â Rali EV ers 2021, a dechrau'r Rali EV - Her Prifddinas Caerdydd yn 2023, mae trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru wedi arwain at greu a lansio GREENFLEET CYMRU.

Os yw'ch sefydliad yn rhedeg car, sawl car, faniau, tryciau neu gyfuniad o’r cyfan, yna bydd y digwyddiad GREENFLEET CYMRU ar 12 Tachwedd yn Techniquest, Caerdydd o ddiddordeb i chi. Gwrandewch ar y siaradwyr, ymgysylltu â'r arbenigwyr, archwilio nwyddau, gwasanaethau ac atebion arloesol a chydweithio. Gall arbenigwyr eich tywys ar y llwybr graddol er mwyn pontio.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y digwyddiad, dilynwch y ddolen ganlynol: GF Cymru | Digwyddiadau GREENFLEET
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.