BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Growth Impact Fund

Mae Growth Impact Fund yn darparu buddsoddi cymdeithasol ar gyfer busnesau cymdeithasol cyfnod cynnar sy’n tyfu, ac sydd:

  • yn cael eu harwain gan arweinwyr a thimau amrywiol
  • yn anelu at gynyddu eu hincwm o fasnachu
  • â’r nod o helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb

Datblygwyd y gronfa gan Big Issue Invest ac UnLtd gyda chymorth Shift, y maent i gyd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r rhwystrau strwythurol o fewn buddsoddi cymdeithasol, ac mae’n cynnig rhwng £50,000 a £1,500,000 o fuddsoddiad.

Ceir tri math o fuddsoddiad hyblyg sydd wedi’u llunio i fodloni eich anghenion:

  • Ecwiti – cyfranddaliadau yn eich sefydliad
  • Rhannu Refeniw – Ad-daliadau yn seiliedig ar berfformiad refeniw eich sefydliad 
  • Dyled Amyneddgar – Ad-daliadau rheolaidd wedi’u gosod ar gyfradd llog a gytunir, dros gyfnod o nifer o flynyddoedd

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Growth Impact Fund  

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.