O 30 Hydref 2023 bydd gwaharddiad ar unrhyw un sy'n gwerthu neu'n cyflenwi rhai cynhyrchion plastig untro yng Nghymru.
Beth sy'n cael ei wahardd?
- Platiau plastig untro – mae’r rhain yn cynnwys platiau papur sydd ag arwyneb plastig wedi’i lamineiddio
- Cytleri plastig untro –er enghraifft ffyrc, llwyau a chyllyll
- Troellwyr diodydd plastig untro
- Cwpanau sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog
- Cynwysyddion bwyd tecawê sydd wedi’u gwneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog
- Ffyn balwnau plastig untro
- Ffyn cotwm plastig untro
- Gwellt yfed plastig untro– gydag esemptiadau er mwyn sicrhau bod yr unigolion hynny sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn gallu parhau i’w cael
Yn 2022, roedd plastig a pholystyren yn cyfrif am 76.5% o'r holl sbwriel ar y traeth yng Nghymru. Mae plastigau untro yn cael eu taflu heb feddwl, gan achosi niwed i fywyd gwyllt a'n hamgylchedd.
Rydym yn gofyn i fusnesau a sefydliadau baratoi ar gyfer y newid drwy leihau eu lefelau stoc, ailgylchu eu stoc bresennol ac ystyried newid i ddewisiadau amgen y gellir eu hailddefnyddio – a lle nad yw hyn yn bosibl, ystyried dewisiadau amgen nad ydynt yn rhai plastig.
Am fwy o wybodaeth a chanllaw drafft ar sut i baratoi dilynwch y ddoleni ganlynol:
- Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) | LLYW.CYMRU
- Cynhyrchion plastig untro: canllawiau drafft | LLYW.CYMRU
- Mis i fynd cyn cyflwyno gwaharddiad plastig untro yng Nghymru | LLYW.CYMRU