BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd sero net

No use symbol in red with plastic straws and fork.

Mae nifer o gynhyrchion plastig untro wedi cael eu gwahardd rhag cael eu cyflenwi yng Nghymru heddiw.

Mae hyn yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i ‘ymgorffori ein hymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur ym mhopeth a wnawn’.

Pwrpas y ddeddf newydd yw lleihau’r llif o lygredd plastig sy’n llifo i’n hamgylchedd trwy wahardd rhai cynhyrchion plastig untro rhag cael eu cyflenwi. 

Esboniodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, bod y Ddeddf yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r argyfyngau hinsawdd a natur a’i bod yn ‘adeiladu ar y momentwm y mae cymunedau ledled Cymru wedi’i greu trwy benderfynu mynd yn ddi-blastig, ymwrthod â’r diwylliant ‘taflu pob peth’ a mynd i’r afael â sbwriel. 

Mae’r cyhoedd wedi bod yn bositif eu cefnogaeth i’r gwaharddiad, gyda mwy nag 87 y cant yn ei gefnogi.
 
O heddiw ymlaen, mae'r eitemau canlynol bellach wedi'u gwahardd rhag cael eu gwerthu ledled y wlad:

  • Platiau plastig untro
  • Cwpanau plastig untro
  • Troellwyr diodydd plastig untro  
  • Cwpanau wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Cynwysyddion bwyd tecawê wedi'u gwneud o bolystyren allwthiedig ymestynedig neu ewynnog
  • Ffyn balŵn plastig untro
  • Ffyn cotwm coesyn plastig untro
  • Gwellt yfed plastig untro (eithriadau i'r rhai sydd eu hangen i fwyta ac yfed yn ddiogel ac yn annibynnol)

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Gwaharddiad ar blastig untro yn dod i rym wrth i Lywodraeth Cymru geisio cyrraedd sero net | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.