BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwahodd oedolion cymwys yng Nghymru i gael pigiad atgyfnerthu’r hydref

Bydd y brechiadau’n cael eu rhoi o ddechrau mis Medi 2022 ymlaen i helpu i atgyfnerthu imiwnedd pobl sydd â risg uwch yn sgil COVID-19, gan eu diogelu yn well rhag salwch difrifol, ac i ddiogelu’r Gwasanaeth Iechyd yn ystod gaeaf 2022-23.

Bydd ein strategaeth frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn sicrhau bod pobl gymwys hefyd yn cael eu diogelu rhag y ffliw tymhorol ac rydym yn annog pobl i fanteisio ar y brechlyn ffliw pan fydd yn cael ei gynnig iddynt.

Bydd un dos o frechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig i’r canlynol:

  • preswylwyr cartrefi gofal i oedolion hŷn a staff sy’n gweithio mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn
  • gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen
  • pob oedolyn 50 oed a hŷn
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sydd mewn grŵp risg glinigol
  • pobl rhwng 5 a 49 oed sydd yn gyswllt cartref i bobl sydd â system imiwnedd wan
  • pobl rhwng 16 a 49 oed sy’n ofalwyr

Rydym yn parhau i argymell bod pawb yn cymryd y camau canlynol i ddiogelu eu hunain, ac i ddiogelu Cymru:

  • cael y brechlyn
  • golchi dwylo’n dda ac yn rheolaidd
  • aros gartref a chael cyn lleied o gyswllt â phosibl ag eraill os ydych chi’n sâl
  • gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau prysur a chaeedig dan do
  • cwrdd ag eraill yn yr awyr agored lle bynnag y bo’n bosibl
  • pan fyddwch dan do, cynyddu lefel yr awyru a gadael awyr iach i mewn

I gael mwy o wybodaeth, ewch i:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.