BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwaith hanfodol ar ffordd yr A487

Traffig Gwyriad

Bydd gwaith ffordd sylweddol i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol ar yr A487 ger Trefdraeth, Sir Benfro, yn dechrau o 6 Ionawr 2025 am wyth wythnos.

Bydd y gwaith, sy'n cael ei wneud i sicrhau gwytnwch hirdymor y ffordd a lliniaru yn erbyn effeithiau newid hinsawdd, yn golygu ailosod system ddraenio sy'n croesi o dan yr A487.

Bydd hefyd yn diogelu'r cysylltiadau ffordd hirdymor rhwng cymunedau a gwasanaethau hanfodol, fel darparwyr gofal iechyd ac ysgolion.

Ailosod llawn oedd yr unig opsiwn gan nad oedd modd atgyweirio'r strwythur presennol.

Gan weithio'n agos gyda'r awdurdod lleol, bydd llwybr dargyfeirio lleol, a reolir gyda signalau traffig dros dro, yn cael ei osod. Bydd traffig cefnffyrdd, gan gynnwys cerbydau nwyddau trwm, yn dilyn llwybr dargyfeirio hirach, tua 35 milltir o hyd.

Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau y gall y ffordd aros ar agor yn y blynyddoedd i ddod.

Bydd busnesau an agor fel arfer ond bydd cymorth uniongyrchol gan Busnes Cymru ar gael i fusnesau sy'n wynebu ansicrwydd oherwydd bod y ffordd ar gau a byddwn yn gweithio gyda busnesau lleol i helpu i gael gafael ar y cymorth hwn. 

I ddarllen datganiad Llywodraeth Cymru yn ei gyfanrwydd, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Gwaith hanfodol ar ffordd yr A487 | LLYW.CYMRU 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.