BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gwaith Hangeri Pont Menai (Cam 2) – Gwaith treialu

Yn y cam olaf hwn o'r rhaglen, bydd yr holl hangeri ar y bont yn cael eu newid.

Pan fydd lôn ar gau, bydd goleuadau traffig yn gweithredu'n rhan amser ar bob pen i'r bont - gan ganiatáu i gerbydau groesi i'r naill gyfeiriad neu'r llall pan fydd hynny'n cael ei ganiatáu. 

Bydd y treialu yn dechrau ar y 6 Mawrth 2023 a'r bwriad yw ei gwblhau o fewn pedwar diwrnod, er y gallai hyn gymryd mwy o amser os oes tywydd garw neu broblem annisgwyl arall.

Gwnaed pob ymdrech i darfu cyn lleied â phosibl yn yr ardal leol a bydd goleuadau traffig ond yn cael eu defnyddio rhwng dydd Llun a dydd Iau, a rhwng 9am a 3pm.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu ar ôl i'r rhaglen newid hangeri gael ei chwblhau'n derfynol. Yn y cyfamser mae rhagor o wybodaeth ac atebion i gwestiynau cyffredin i'w cael drwy'r dolen canlynol: A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:Datganiad Ysgrifenedig: Gwaith Hangeri Pont Menai (Cam 2) – Gwaith treialu (27 Chwefror 2023) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.