Llywodraeth y DU yn cyhoeddi Gwarant Pris Ynni i deuluoedd a busnesau tra'n cymryd camau ar frys i ddiwygio marchnad ynni sydd wedi torri.
Gwarant Pris Ynni
O 1 Hydref 2022, bydd 'Gwarant Pris Ynni' newydd yn golygu y bydd aelwyd nodweddiadol yn y DU nawr yn talu hyd at £2,500 y flwyddyn ar gyfartaledd am eu bil ynni am y ddwy flynedd nesaf. Mae hyn yn awtomatig ac yn berthnasol i bob aelwyd.
Bydd pob aelwyd gyffredin yn arbed o leiaf £1,000 y flwyddyn ar gyfartaledd yn seiliedig ar brisiau ynni cyfredol o fis Hydref ymlaen, ac mae'n ychwanegol at y gostyngiad o £400 ar filiau ynni i bob aelwyd.
Mae hyn yn berthnasol i bob cartref ym Mhrydain Fawr, ac mae’r un lefel o gymorth ar gael i aelwydydd yng Ngogledd Iwerddon.
Bydd cynllun chwe mis newydd ar gyfer busnesau a defnyddwyr ynni annomestig eraill (gan gynnwys elusennau a sefydliadau sector cyhoeddus fel ysgolion) yn cynnig cefnogaeth gyfatebol i’r hyn sy'n cael ei darparu i ddefnyddwyr. Bydd hyn yn eu hamddiffyn rhag costau ynni cynyddol ac yn rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i gynllunio eu busnes.
I gael mwy o wybodaeth, ewch i:
- Government announces Energy Price Guarantee for families and businesses while urgently taking action to reform broken energy market - GOV.UK (www.gov.uk)
- Help for Households - Get government cost of living support
- Energy bills support factsheet: 8 September 2022 - GOV.UK (www.gov.uk)
Llywodraeth Cymru: