Ydych chi'n gyflogwr?
Ydych chi angen gweithwyr?
Ydych chi'n barod i hyfforddi a chefnogi pobl sy'n dychwelyd i'r gwaith?
Ydych chi eisiau cyfrannu at eich cymuned?
Os gallwch chi ddweud ie wrth y rhain i gyd, hoffem glywed gennych.
Mae'r Gwasanaeth Allan o Waith yn darparu cymorth mentora a chyflogadwyedd i bobl sy'n gwella o gamddefnyddio sylweddau a/neu afiechyd meddwl. Gall cyflogwyr elwa ar dri mis o gyngor a chefnogaeth gan fentoriaid cymheiriaid os ydynt yn cyflogi rhywun a gyfeiriwyd gan y gwasanaeth.
Prif nod y gwasanaeth yw helpu pobl i gael ac aros mewn gwaith. Er mwyn cyflawni hyn, mae'r gwasanaeth yn gweithio gyda chyflogwyr sydd eisiau cynnig cyfleoedd i bobl sy'n gwella – hyfforddiant, lleoliadau, datblygu sgiliau, ond yn bennaf oll swyddi.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan Case UK yng Nghwm Taf, Platfform yng Ngwent a gan gonsortiwm trydydd sector, Cyfle Cymru, yng Ngogledd Cymru, Dyfed, Powys, Bae Gorllewin a Chaerdydd a'r Fro.
Mae'r gwasanaeth yn cael ei ddarparu'n bennaf gan fentoriaid cymheiriaid profiadol – pobl sydd â'r profiad byw o wella. Maent wedi bod drwyddo ac yn gwybod yr anawsterau. Mae mentoriaid cymheiriaid hefyd yn deall sut mae gwaith ac adferiad yn rhyngweithio a gallant gynnig cefnogaeth a chyngor i gyflogwyr. Gallant egluro sut mae patrymau a pholisïau cyflogaeth yn effeithio ar adferiad, a sut y gall pobl sy'n gwella fod yn weithwyr ffyddlon, cynhyrchiol.
Mae'r gwasanaeth yn cofrestru pobl 16 oed a hŷn, gydag ystod o gymwysterau a sgiliau, gyda llawer wedi bod allan o waith am 12 mis neu fwy; Efallai na fyddai rhai erioed wedi gallu cael neu ddal swydd. Mae'r gwasanaeth yn eu helpu i baratoi ar gyfer gwaith drwy weithgareddau addas. Dim ond ychydig iawn o anogaeth sydd ei angen ar eraill a byddant yn barod i weithio.
Wrth gwrs, er mwyn i bobl fynd i mewn i waith, mae angen cyflogwyr sy'n barod i ennill dealltwriaeth o adferiad a rhoi cyfle i bobl sy'n gwella weithio.
Os ydych chi'n chwilio am weithwyr newydd, ac yn barod ac yn gallu cynnig cyfleoedd gwaith neu hyfforddiant a rhywfaint o gymorth cychwynnol i weithiwr newydd sy'n gwella, beth am roi galwad i ni?
Cwm Taf
Os ydych yn byw ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf neu Ben-y-bont cysylltwch â Case-UK Ltd: Ffôn: 02921 676213, gwefan Case UK
Gwent
Os ydych yn byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Casnewydd neu Sir Fynwy cysylltwch â Platfform: Ffôn 01495 245802, e-bost gwentoows@platfform.org gwefan Platfform
Unrhyw ardaloedd eraill yng Nghymru
Os ydych chi'n byw mewn unrhyw ardal arall yng Nghymru, cysylltwch ag Adferiad: Ffôn 0300 777 2256, e-bost ask@cyflecymru.com gwefan Cyfle Cymru