BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn cadarnhau cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1

Heddiw (14 Mehefin 2021), mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, wedi cyhoeddi y bydd busnesau yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt yn sylweddol gan y camau i symud yn raddol i Lefel Rhybudd 1, megis atyniadau dan do a lleoliadau priodas, yn cael gwerth £2.5m o gymorth pellach gan Lywodraeth Cymru.

Mae cyllid ychwanegol bellach ar gael i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y newid graddol i Lefel Rhybudd 1, oherwydd yr effaith y mae amrywiolyn delta COVID-19 yn ei chael ar gyfraddau trosglwyddo. Mae’r newid graddol yn cymryd i ystyriaeth pryderon ynghylch effaith yr amrywiolyn delta ar gyfraddau trosglwyddo a chynnydd posibl yn nifer y bobl sy’n cael ei derbyn i’r ysbyty.

Bydd cymorth ar gael i fusnesau sydd â chapasiti ar gyfer digwyddiadau o fwy na 30 o bobl dan do neu mewn mannau cyfyng ac i fusnesau sy'n dal ar gau oherwydd cyfyngiadau parhaus.

I dderbyn y cyllid, bydd angen i fusnesau fod wedi gwneud cais i gylch diweddaraf Llywodraeth Cymru o gyllid brys - y mae'r dyddiad cau ar ei gyfer wedi'i ymestyn tan 12pm ddydd Mercher 16 Mehefin 2021.

Bydd gan fusnesau hawl i daliad ychwanegol o rhwng £875 a £5,000, yn dibynnu ar eu maint a'u hamgylchiadau, ar gyfer y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mehefin.

Bydd ymgeiswyr cymwys yn derbyn y taliad ychwanegol yn awtomatig lle bo hynny'n bosibl, neu bydd angen iddynt hunan-ddatgan drwy broses syml ar-lein. Mae manylion ar gael ar wefan Busnes Cymru.

Os yw sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu, mae Gweinidogion yn gobeithio gweld Cymru'n symud yn llawn i Lefel Rhybudd 1 ar 21 Mehefin 2021. Bydd y Prif Weinidog yn cadarnhau unrhyw newidiadau yn ddiweddarach yr wythnos hon.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.