BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cyllid gwerth £4.5 miliwn ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw (6 Ebrill 2022) bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gwerth £4.5 miliwn i ddatblygu sylfaen sgiliau busnesau a chreu gweithlu yng Nghymru sy'n barod i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol.

Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP), a ddechreuodd yn 2015, yn darparu ymyriadau sgiliau wedi'u targedu ochr yn ochr â rhaglenni sy'n bodoli eisoes, neu lle mae angen cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect busnes penodol.

Mae'r rhaglen yn gweithredu ar sail buddsoddi ar y cyd sy'n golygu bod yn rhaid i gyflogwyr roi arian cyfatebol i gymorth Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn golygu bod cyfanswm o £9 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn economi Cymru.

Mae'r rhaglen yn cael ei hariannu am dair blynedd arall. Mae'n gweithredu ledled Cymru ac mae'n agored i bob cyflogwr ar draws dwy ffrwd:

  • mae'r ffrwd Datblygu Busnes yn cefnogi prosiectau sylweddol dan arweiniad cyflogwyr sy'n canolbwyntio ar uwchsgilio'r gweithlu. Mae Airbus Brychdyn yn arwain y gwaith o ddatgarboneiddio'r sector awyrofod gyda chymorth y ffrwd hon. Bydd rhaglen Airbus ZEROe yn adeiladu'r awyren ddi-allyriadau gyntaf yn y byd erbyn 2035. Mae'r newid hwn i ddylunio a gweithgynhyrchu awyrennau gwyrdd yn ei gwneud yn ofynnol i weithwyr ddatblygu'r sgiliau gwyrdd newydd y bydd eu hangen ar economi'r dyfodol
  • nod ffrwd y Prosiect Partneriaeth yw hybu economi sgiliau ehangach Cymru drwy alluogi grŵp o gyflogwyr neu gyrff cynrychioliadol i helpu Cymru i oresgyn her sgiliau neu ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i hybu datblygiad economaidd yn y dyfodol. Roedd pum prosiect partneriaeth a gymeradwywyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys datblygu prosiectau ar gyfer y sectorau twristiaeth a lletygarwch, peirianneg a gweithgynhyrchu, y diwydiannau creadigol, digidol ac allforio.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi cyllid gwerth £4.5 miliwn ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Hyblyg | LLYW.CYMRU

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.