Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i gyflymu’r broses o sefydlu a gweithredu banc cymunedol, Banc Cambria, ledled Cymru.
Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru’n cynnwys ymrwymiad i gefnogi’r broses o greu Banc Cymunedol i Gymru, er mwyn ceisio mynd i’r afael â methiant y farchnad mewn perthynas â’r bwlch yn narpariaeth, effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau bancio yng Nghymru.
Mae nifer cynyddol o gymunedau ledled Cymru bellach wedi cael eu gadael heb fynediad at wasanaethau bancio hygyrch, y mae Gweinidogion yn credu sy’n wasanaeth cyhoeddus hanfodol – gan effeithio fwy ar y cymunedau gwledig a’r unigolion a’r busnesau hynny ledled Cymru, sy’n dibynnu fwy ar arian parod, a bancio drwy berthynas wyneb yn wyneb.
Nod Banc Cambria yw darparu gwasanaethau bancio manwerthu llawn bob dydd, gan gynnig gwasanaethau bancio amlsianel dwyieithog i unigolion a busnesau bach; dros y ffôn, yn ddigidol, ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ni all Banc Cambria ddisodli nifer cynyddol y canghennau sy’n cau oherwydd Banciau’r Stryd Fawr. Fodd bynnag, nod Banc Cambria yw sefydlu tua 30 o safleoedd newydd yn ystod y degawd nesaf, gan ganolbwyntio ar gymunedau sydd wedi colli darpariaeth.
Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru