Mae Cyngor Sir Ddinbych yn cyhoeddi adfywiad ymgyrch ‘Mis Mawrth Menter’ yn 2024. Mae’r fenter yn cynnig gweithdai, digwyddiadau rhwydweithio, a sesiynau cyngor am ddim i fusnesau lleol yn Sir Ddinbych.
Bydd digwyddiadau eleni’n archwilio amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:
- Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl a Straen
- Sesiwn Galw Heibio Cymorth i Fusnesau
- Caffael
- Clwb Gwerthu
- Cychwyn a Rhedeg Busnes
Ynghyd â rhai partneriaid cefnogol, gan gynnwys Busnes Cymru, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i gynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol y mis.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Mis Mawrth Menter | Cyngor Sir Ddinbych
Chwiliwch ein Digwyddiadur am hyfforddiant, seminarau, gweithdai a rhwydweithio busnes gan wahanol gyrff.