BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdai ar-lein ar oed-gynhwysiant i gyflogwyr

Mae'r rhwydwaith busnes cyfrifol, Busnes yn y Gymuned Cymru yn cynnig lleoedd wedi'u cyllido'n llawn i gyflogwyr yng ngweithdai ar-lein ei Rwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol. Yn rhan o'r Rhaglen Pobl Hŷn yn y Gweithle, mae'r gweithdai rhyngweithiol yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol neu bobl â chyfrifoldebau dros Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd cyflwyniadau gan siaradwyr arbenigol, cyfle i ddysgu a rhannu arfer gorau, a chymryd camau gweithredu ymarferol i'w rhoi ar waith a fydd yn eu helpu i recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr dros 50 oed yn eu gweithle eu hunain.  

Gweithdai sydd ar y gorwel 
 
Heneiddio'n Gadarnhaol | Dydd Mercher 25 Ionawr 2023 10am - 11:30am
Archwiliwch sut gallwch chi gefnogi unigolion dros 50 oed i addasu eu hymddygiad er mwyn cael bywyd gwaith iachach a hirach, a dysgu sut i greu diwylliant amrywiol a chynhwysol yn y gweithle lle mae canfyddiad cadarnhaol o heneiddio. 
 
Paratoi at Ymddeol | Dydd Mercher 1 Mawrth 10am - 11:30am
Darganfyddwch sut gall eich busnes gynnig cymorth i helpu ei weithwyr i gael eglurder a theimlo'n hyderus ac wedi'u paratoi'n well ar gyfer ymddeol, gan greu dyfodol sy'n iawn iddyn nhw. Bydd y sesiwn hon yn helpu cyflogwyr i gefnogi eu pobl drwy'r cam ar ôl 50 oed o'u taith gyflogaeth drwy geisio darparu cefnogaeth ar gyfer cynllunio at ymddeol yn rhan o strategaeth lesiant ehangach.  

Cliciwch yma i gofrestru neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â jill.salter@bitc.org.uk 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.