BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdai ar-lein ar oed-gynhwysiant i gyflogwyr

Mature Workers

Mae'r rhwydwaith busnes cyfrifol, Busnes yn y Gymuned Cymru yn cynnig lleoedd wedi'u cyllido'n llawn i gyflogwyr yng ngweithdai ar-lein ei Rwydwaith Dysgu Oed-gynhwysol. Yn rhan o'r Rhaglen Pobl Hŷn yn y Gweithle, mae'r gweithdai rhyngweithiol yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr proffesiynol adnoddau dynol neu bobl â chyfrifoldebau dros Amrywiaeth a Chynhwysiant, a bydd cyflwyniadau gan siaradwyr arbenigol, cyfle i ddysgu a rhannu arfer gorau, a chymryd camau gweithredu ymarferol i'w rhoi ar waith a fydd yn eu helpu i recriwtio, cadw a chefnogi gweithwyr dros 50 oed yn eu gweithle eu hunain.  

Gweithdai sydd ar y gorwel:

  • Cefnogi eich gweithwyr â chyfrifoldebau gofalu, dydd Iau 5 Hydref 2023, 10am i 11:30 am 
  • Recriwtio oed-gynhwysol, dydd Mawrth 7 Tachwedd 2023, 10am i 11:30am
  • Paratoi at Ymddeol, dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023, 10am i 11:30am
  • Creu diwylliant oed-gynhwysol a threchu rhagfarn ar sail oed yn y gweithle, dydd Mawrth 16 Ionawr 2024 10am i 11:30 am

I drefnu lle yn y digwyddiad ewch i wefan Eventbrite neu am wybodaeth bellach, cysylltwch â jill.salter@bitc.org.uk 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.