BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdai datblygu cynnyrch newydd i fusnesau bwyd a diod Cymru

Lightbulb and fruit

Mae Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd yn darparu cymorth technegol, gweithredol a masnachol i fusnesau bwyd i'w galluogi i gystadlu'n fwy effeithiol.

Drwy gydol mis Hydref, Tachwedd a Rhagfyr 2024 maent yn cynnal cyfres o weithdai wedi’u hariannu’n llawn i fusnesau bwyd a diod o Gymru ar bynciau megis:

  • Creu Briff
  • Proses Datblygu Cynnyrch Cam wrth Gam (stage gate)
  • Datblygu Cynnyrch Diogel
  • Gofynion Labelu Cyfreithiol
  • Ymwybyddiaeth Synhwyraidd Sylfaenol

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer digwyddiad, dewiswch y ddolen ganlynol: ZERO2FIVE Food Industry Centre Events - 8 Upcoming Activities and Tickets | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.