BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweithdai Twf Busnes wedi’u hariannu’n llawn

business meeting

A ydych chi’n teimlo nad yw eich busnes yn tyfu’n ddigon cyflym? Neu a ydych chi am dyfu’n gyflym pan fydd eich busnes yn lansio?

Os felly, beth am ddod i weithdai rhad ac am ddim i ddysgu’r sgiliau a’r prosesau i waredu risgiau i’ch busnes yn sylweddol.

Os ydych chi’n byw yng Nghaerdydd neu os yw eich busnes wedi’i leoli yno, rydych chi’n gymwys i fynychu. 

Mae’r gweithdai wedi’u hanelu at y busnesau hynny sydd eisoes ar waith ac yn teimlo nad ydynt wedi’i hoelio hi’n iawn eto. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl am ddechrau busnes, gallwch elwa hefyd trwy ddysgu’r sgiliau allweddol hyn, fel nad ydych chi’n gwneud y camgymeriadau hynny pan fyddwch chi’n cychwyn.

Mae’r gyfres o weithdai ar gael am gyfnod cyfyngedig yn unig yn 2024, ac i nifer gyfyngedig o fynychwyr. Mae’r dyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys:

Mae’r prosiect hwn yn cael ei ariannu/ariannu’n rhannol gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Product Market Hit


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.