Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae mwy o alw wedi bod am hylif diheintio dwylo a chynhyrchion diheintio arwynebau.
Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ganllawiau i gyflogwyr sy'n darparu hylif diheintio dwylo i'w gweithwyr ac eraill ei ddefnyddio yn eu gweithleoedd, ac ar gyfer gweithgynhyrchwyr hylif diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau sy’n bodoli eisoes a rhai newydd.
Gall y canllawiau ar ddewis hylif diheintio dwylo fod yn ddefnyddiol i aelodau'r cyhoedd hefyd. Mae canllawiau ar:
- ddewis yr hylifau diheintio dwylo a diheintyddion arwynebau priodol
- gweithgynhyrchu a chyflenwi hylifau diheintio dwylo (PDF)
- gweithgynhyrchu a chyflenwi diheintyddion arwynebau (PDF)
- Ymateb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i'r galw cynyddol am weithgynhyrchu a chyflenwi cynhyrchion diheintio dwylo bioladdol yn ystod pandemig y coronafeirws.
Mae cyngor pellach ar lanhau, hylendid a golchi dwylo i wneud eich gweithle yn ddiogel rhag COVID.
I weld y casgliad llawn o wybodaeth a chyngor sy'n gysylltiedig â COVID ewch i dudalennau coronafeirws yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.