Gall busnesau technoleg a gweithgynhyrchu wneud cais yn awr am gyllid i ddatblygu technolegau digidol arloesol sydd â’r potensial i drawsnewid cadwyni cyflenwi; gan sicrhau sector gweithgynhyrchu mwy effeithlon, cynhyrchiol, hyblyg a chydnerth yn y DU.
Diolch i gyllid gan Gronfa Her y Strategaeth Ddiwydiannol, dan arweiniad Innovate UK, gall consortia o fusnesau wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau hyd at £1.5 miliwn.
Bydd prosiectau’n cefnogi datblygiad technolegau digidol arloesol ac yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i ailfeddwl ac ailwampio’r ffordd maen nhw’n cynllunio a gweithredu cadwyni cyflenwi.
Gall busnesau sy’n gwneud cais am gyllid newydd geisio gwella canlyniadau o gadwyni cyflenwi cyfredol, ailgynllunio neu ad-drefnu cadwyni cyflenwi neu gynllunio cysyniadau cadwyni cyflenwi newydd ar gyfer cynhyrchion neu brosesau newydd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 7 Hydref 2020 am hanner dydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK